FLAMENCO GYDA PHUMAWD PABLO DOMINGUEZ

Sul 11 Hyd, 7:30pm
Neuadd y Dref

Wedi gohirio

Bydd Neuadd Tref y Bont-faen yn cael ei thrawsnewid yn glwb Flamenco yn Andalusia am un noson yn unig! Eisteddwch nôl gyda gwydraid o Rioja a bydd Pablo Dominguez a’i bumawd o gerddorion a dawnswyr Sbaenaidd lliwgar yn mynd â chi’r holl ffordd i dde Sbaen. 

Daw Pablo Dominguez yn wreiddiol o Cadiz, bellach fe yw un o chwaraewyr blaenllaw y gitâr yn Llundain, yn arbenigo mewn Flamenco a jazz, ac mae’n gerddor preswyl yng Nghlwb Jazz byd-enwog Ronnie Scott.