GANOL NOS YM MHARIS

Llu 5 Hyd, 7:30pm
Eglwys y Groes Sanctaidd

Wedi gohirio

Camille Thomas – sielo
Julien Brocal – piano

Clair de lune (tr. Roelens) gan Debussy
Sonata i’r Sielo a’r Piano gan Debussy
Gymnopédie Rhif 1 gan Satie
Valse "La plus que lente" gan Ravel
Les chemins de l’amour,FP 106 gan Poulenc
Mouvement perpétuel gan Francaix
Trois pièces gan Boulenger
***
Sonata i’r Sielo a’r Piano gan Chopin
Introduction et Polonaise brillante gan Chopin

Mae Camille Thomas, sy’n hanu o Baris, yn cael ei hystyried gan lawer yn un o sielyddion ifanc gorau ein cyfnod ni. Ymhlith ei chyflawniadau niferus hyd yma, hi oedd y sielydd cyntaf i gael contract gyda’r label recordio o fri, Deutsche Grammophon, ers 40 mlynedd, ac mae ei henw ar restr ‘30 o dan 30’ Forbes yn 2018. DisgrifioddGramophone ei cherddoriaeth fel profiad“cyfoethog, cynnes, a llawn blas” ac rydym wrth ein bodd yn ei chroesawu i’r Bont-faen ar gyfer ei pherfformiad cyntaf yng Nghymru.

Bu’r pianydd o Ffrainc, Julien Brocal, yn fyfyriwr i Maria João Pires, ac mae wedi mynd ymlaen i gydweithio a pherfformio gyda hi ar draws y byd. Rhyddhawyd ei recordiad unigol cyntaf (o weithiau gan Chopin) ym mis Ionawr 2017, a chafodd ganmoliaeth gan y wasg ryngwladol, yn fwyaf nodedig BBC Music Magazine, a’i galwodd yn “Chopin Hudol”, rhoi pum seren iddo a’i ddewis fel albwm ‘Dewis Offerynnol’ y mis.