Cyfleoedd am Swyddi
CYFARWYDDWR ARTISTIG
Wedi i Mary Elliott-Rose, y Cyfarwyddwr Artistig presennol a chyd-Sylfaenydd yr ŵyl, gamu i lawr o’i swydd, mae bwrdd yr ymddiriedolwyr am benodi Cyfarwyddwr Artistig (CA) newydd, a fydd yn arwain yr ŵyl ymlaen i’w hail ddegawd, gan ysbrydoli, arwain, rheoli a chreu amodau fydd yn ei gwneud yn gynaliadwy yn y tymor hir. Bydd y CA yn adrodd i’r bwrdd ac yn gweithio ochr yn ochr â’r Gweinyddwr.
Math o gontract: cyfnod penodol, rhan amser
Hyd y contract: 1 Mawrth – 31 Rhagfyr 2021, a bydd modd ei adnewyddu yn amodol ar adolygiad
Cyflog: £10,000 gros
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Gŵyl Gerdd y Bont-faen yn credu’n gryf mewn cydraddoldeb ac amrywiaeth. O ganlyniad, mae’r ymddiriedolwyr yn croesawu ac yn annog ceisiadau am swyddi gan bobl o bob cefndir.
Y Broses o Gyflwyno Cais
Anfonwch CV a llythyr cefnogi i info@cowbridgemusicfestival.co.uk erbyn 18 Chwefror 2021. Bydd y rhai a ddewisir ar gyfer cyfweliad yn cael gwahoddiad i gwrdd ag aelodau’r bwrdd trwy Zoom tua diwedd Chwefror.
Please download the full Job description here.