{"id":375,"date":"2015-05-07T13:12:10","date_gmt":"2015-05-07T12:12:10","guid":{"rendered":"https:\/\/cbfestival.wpengine.com\/?page_id=375"},"modified":"2022-07-18T10:51:16","modified_gmt":"2022-07-18T09:51:16","slug":"our-patron","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/cy\/our-patron\/","title":{"rendered":"Ein Noddwr"},"content":{"rendered":"<\/p>\n<h2>Mae\u2019n anrhydedd i ni mai Nicola Benedetti MBE, y fiolinydd o fri rhyngwladol, yw Noddwr G\u0175yl Gerdd y Bont-faen.<\/h2>\n<p>Daeth Nicola i gysylltiad \u00e2\u2019r \u0175yl am y tro cyntaf yn 2011, pan roddodd ddatganiad bythgofiadwy gyda\u2019r pianydd Alexei Grynyuk yn Neuadd Bradenstoke. Bryd hynny, dim ond yn ei hail flwyddyn yr oedd yr \u0175yl, a bu hi\u2019n canmol y llwyddiant cynnar. Dair blynedd yn ddiweddarach, i nodi 5 mlynedd, bu\u2019n ddigon caredig i addo ei chefnogaeth a\u2019i chymeradwyaeth. Mae G\u0175yl Gerdd y Bont-faen yn rhannu ei nod o roi cyfleoedd cerddorol i blant, a meithrin doniau ifanc. Mae\u2019r gwaith addysgol uchel ei barch y mae hi\u2019n ei gyflawni mewn modd arloesol yn yr Alban, ei mamwlad, ac ar draws y byd, yn enghraifft sy\u2019n ysbrydoli o\u2019r hyn y gellir ei gyflawni.<\/p>\n<h3>Rhai ffeithiau am Nicola\u2026<\/h3>\n<p>Nicola Benedetti yw un o fiolinyddion amlycaf ei chenhedlaeth. Mae ei gallu i hudo cynulleidfaoedd \u00e2\u2019i natur gerddorol gynhenid a\u2019i phresenoldeb deinamig, ynghyd \u00e2\u2019i hatyniad cyffredinol fel llysgennad proffil uchel i gerddoriaeth glasurol, wedi ei gwneud hi\u2019n un o artistiaid clasurol mwyaf dylanwadol ein dyddiau.<\/p>\n<p>Ganed Nicola yn yr Alban o dras Eidalaidd, a dechreuodd gael gwersi fiolin yn bump oed gyda Brenda Smith. Yn 1997, aeth i Ysgol Yehudi Menuhin, lle bu\u2019n astudio gyda Natasha Boyarskaya. Ar \u00f4l gadael y fan honno, bu\u2019n astudio ymhellach gyda Maciej Rakowski ac yna Pavel Vernikov.<\/p>\n<p>Elfen greiddiol o\u2019i gyrfa yw perfformio concerti, ac mae mawr alw am Nicola gyda cherddorfeydd blaenllaw ar draws y byd. Ymhlith yr arweinwyr y mae Nicola wedi gweithio gyda nhw mae Vladimir Ashkenazy, Ji\u0159\u00ed B\u011blohl\u00e1vek, St\u00e9phane Den\u00e8ve, Christoph Eschenbach, James Gaffigan, Hans Graf, Valery Gergiev, Alan Gilbert, Jakub Hr\u016f\u0161a, Kirill Karabits, Andrew Litton, Kristjan J\u00e4rvi, Vladimir Jurowski, Cristian M\u0103celaru, Zubin Mehta, Andrea Marcon, Michael Tilson Thomas, Robin Ticciati, Vasily Petrenko, Donald Runnicles, Thomas S\u00f8nderg\u00e5rd, Pinchas Zukerman a Jaap van Zweden.<\/p>\n<p>Mae Nicola yn mwynhau gweithio gyda cherddorfeydd ar y lefel uchaf, gan gynnwys cydweithio \u00e2\u00a0Cherddorfa Symffoni Llundain, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, Cerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd, Cerddorfa Theatr Mariinsky, Leipzig Gewandhousorchestr, Cerddorfa Symffoni Radio Frankfurt, y Gerddorfa Ffilharmonig Tsiec, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Denmarc, Cerddorfa Ffilharmonig Los Angeles, Cerddorfa Symffoni San Francisco, Cerddorfa Symffoni Chicago, a Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Washington D.C.<\/p>\n<p>Y tymor yma, bydd Nicola yn cydweithio \u00e2 Cherddorfa\u2019r Oes Oleuedig ar gyfer cyngherddau byw yn y BBC Proms, Snape Maltings a Neuadd Saffron, ac yn gweithio ar brosiectau digiol i\u2019r Philharmonia a Paavo J\u00e4rvi a Cherddorfa Siambr yr Alban gyda Maxim Emelyanychev. Ar ben hynny, mae Nicola yn perfformio gyda Cherddorfa Symffoni Lucerne a James Gaffigan, Cerddorfa Genedlaethol Sbaen a Cherddorfa Symffoni Pittsburgh gyda Pablo Heras-Casado. Mae hi hefyd yn Artist Preswyl gyda Cherddorfa Symffoni St Louis a bydd yn perfformio nifer o gyngherddau, datganiadau a dosbarthiadau meistr ar hyd y tymor. Yng ngwanwyn 2021 bydd Nicola yn rhoi\u2019r perfformiad byd cyntaf o Concerto Mark Simpson i\u2019r Fiolin gyda Cherddorfa Symffoni Llundain a Gianandrea Noseda, cyn i\u2019r un gwaith gael ei berfformio gydag RSNO a WDR K\u00f6ln. Ymhlith uchafbwyntiau eraill y tymor mae teithiau i UDA ar gyfer prosiectau cerddoriaeth siambr, gan gynnwys rhaglen o ddatganiadau bar\u00f3c gyda Richard Egarr, taith i\u2019r Dwyrain Pell gyda Cherddorfa Siambr yr Alban a Maxim Emelyanychev, a recordiad a pherfformiadau o Concerto Beethoven i\u2019r Fiolin gyda Cherddorfa Aurora.<\/p>\n<p>Ymhlith uchafbwyntiau\u2019r tymor diwethaf roedd perfformiad cyntaf Nicola gyda\u2019r Wiener Symphoniker, taith yn Asia gyda\u2019r Deutsches Symphonie-Orchester Berlin a Robin Ticciati, a pherfformiadau pellach gyda Vladimir Jurowski a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, Michael Tilson Thomas gyda cherddorfa Symffoni\u2019r Byd Newydd a cherddorfa Symffoni Llundain, Cerddorfa Symffoni Birmingham, Cerddorfa Siambr yr Alban, a thaith yn Ewrop gyda Thomas S\u00f8nderg\u00e5rd a Cherddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban.<\/p>\n<p>Mae Nicola hefyd yn gerddor siambr selog ac yn cydweithio \u00e2\u2019r sielydd Leonard Elschenbroich a\u2019r pianydd Alexei Grynyuk, sydd wedi bod yn perfformio fel triawd ers 2008. Ymhlith perfformiadau\u2019r gorffennol mae Neuadd Cadogan, Llundain, Concertgebouw, Amsterdam, G\u0175yl Ryngwladol Caeredin, Alte Oper, Frankfurt, G\u0175yl Ravinia, 92nd Street Y, Efrog Newydd, a Neuadd y Ddinas, Hong Kong. Ym mis Tachwedd 2018 cychwynnodd y triawd ar daith mis o hyd yn Awstralia, gan roi naw perfformiad mewn saith dinas.<br \/>\nMae Nicola wedi parhau yn ei r\u00f4l fel llysgennad ymroddedig, angerddol ac arweinydd ym maes addysg gerddorol. Ategwyd ei hymrwymiad i gefnogi ymarferwyr cerdd y Deyrnas Unedig ym mis Gorffennaf 2018, pan ddaeth Nicola\u2019n Llywydd Cymdeithas Athrawon Llinynnau Ewrop. Mae hi wedi ffurfioli ei gweledigaeth ac ehangu ei hymrwymiad i addysg pobl ifanc a chefnogi athrawon cerdd trwy ffurfio sefydliad elusennol: Sefydliad Benedetti. Lansiwyd Sefydliad Benedetti ym mis Ionawr 2020, ac mae\u2019n cynnal gweithdai cerddorfaol trawsffurfiannol i bobl ifanc ac athrawon, gan arddangos sut olwg a theimlad sydd i\u2019r addysg gerddorol orau. Ers ffurfio\u2019r Sefydliad, mae wedi cyflwyno pedair sesiwn yn y Deyrnas Unedig, gan weithio gyda phlant ac athrawon o 31 o\u2019r 32 awdurdod lleol yn yr Alban, 30 o\u2019r 32 bwrdeistref yn Llundain, ac mewn partneriaeth agos \u00e2 llawer o sefydliadau, gwasanaethau cerdd, hybiau ac athrawon cerdd preifat ar draws y Deyrnas Unedig. Ym mis Mai 2020, yn ystod y cyfnod clo, aeth y Sefydliad ar-lein gyda \u201csesiynau rhithwir\u201d, a darparu sesiynau tiwtorial ar-lein a gweithdai llawn ysbrydoliaeth i fwy na 7,000 o gerddorion o bob oed. Mae\u2019r sesiynau wedi cael effaith na welwyd ei thebyg, gyda mwy na 66 o wledydd yn cael eu cynrychioli, a phobl o 41 o 50 Talaith UDA yn ymuno.<\/p>\n<p>Mae Nicola yn dal i lenwi swyddi allweddol mewn nifer o sefydliadau cerddoriaeth ieuenctid amlycaf a safon uchaf y wlad, gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol y Plant (Is-lywydd), Sistema Scotland (Chwaer Fawr), Cerddorfa Iau Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol yr Alban (Noddwr), Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth mewn Ysgolion Uwchradd (Noddwr), Conservatoire Iau Conservatoire Brenhinol yr Alban (Noddwr), a llawer mwy.<\/p>\n<p>Enillodd Nicola\u2019r wobr GRAMMY am yr Unawd Offerynnol Clasurol Gorau yn 2020, yn ogystal \u00e2\u2019r Artist Benywaidd Gorau yng Ngwobrau BRIT Clasurol 2012 a 2013, ac mae hi\u2019n recordio i Decca (Universal Music) yn unig. Aeth ei recordiad diweddaraf o Concerto Elgar i\u2019r Fiolin yn syth i rif un yn Siart Albymiau Clasurol Swyddogol y Deyrnas Unedig, a derbyniodd glod gan y beirniaid, gan gynnwys adolygiad 5* yn The Times: \u201cAc eto, y tu hwnt i\u2019w hystwythder gloyw, mae Benedetti yn cynnig rhywbeth mwy gwerthfawr fyth i\u2019r gwrandawyr: dehongliad personol deinamig, yn llawn ffresni ac argyhoeddiad.\u201d Ymhlith ei recordiadau eraill diweddar mae ei halbwm a enillodd GRAMMY, a luniwyd yn arbennig ar ei chyfer gan y cerddor jazz Wynton Marsalis: Concerto i\u2019r Fiolin yn D a Fiddle Dance Suite for Solo Violin. Mae catalog recordio Nicola hefyd yn cynnwys gweithiau o Concerti Shostakovich a Glazunov i\u2019r Fiolin i Concerto Szymanowski (Cerddorfa Symffoni Llundain\/Daniel Harding) i Homecoming; A Scottish Fantasy, a olygodd mai Nicola oedd yr unawdydd fiolin cyntaf o Brydain ers y 1990au i gyrraedd yr 20 ar y brig yn Siart Albymiau Swyddogol y Deyrnas Unedig.<\/p>\n<p>Penodwyd Nicola yn Gomander Urdd Ymerodraeth Prydain (CBE) yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2019, dyfarnwyd iddi Fedal Cerddoriaeth y Frenhines yn 2017, yr ifancaf erioed i\u2019w dderbyn, ac fe\u2019i penodwyd yn Aelod o Urdd Fwyaf Ardderchog yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) yn 2013 i gydnabod ei gyrfa gerddorol ryngwladol a\u2019i gwaith gydag elusennau cerddorol ar draws y Deyrnas Unedig. Ar ben hynny, mae Nicola wedi derbyn naw gradd er anrhydedd hyd yma.<\/p>\n<p>Mae Nicola yn chwarae\u2019r Gariel Stradivarius (1717), trwy garedigrwydd Jonathan Moulds.<\/p>\n<p><em>Ffoto: Simon Fowler<\/em><\/p>\n<p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":10,"featured_media":3087,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":"","_members_access_role":[],"_members_access_error":""},"class_list":["post-375","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v28.1 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Our Patron - Cowbridge Music Festival<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"We are honoured to have the internationally acclaimed violinist Nicola Benedetti CBE as Patron of Cowbridge Music Festival.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/cy\/our-patron\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Our Patron - Cowbridge Music Festival\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"We are honoured to have the internationally acclaimed violinist Nicola Benedetti CBE as Patron of Cowbridge Music Festival.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/cy\/our-patron\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Cowbridge Music Festival\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/cowbridgemusicfestival\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-07-18T09:51:16+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/our-patron-nicola-benedetti.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"450\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@CowbridgeMusic\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"11 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/our-patron\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/our-patron\\\/\",\"name\":\"Our Patron - Cowbridge Music Festival\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/our-patron\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/our-patron\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/05\\\/our-patron-nicola-benedetti.jpg\",\"datePublished\":\"2015-05-07T12:12:10+00:00\",\"dateModified\":\"2022-07-18T09:51:16+00:00\",\"description\":\"We are honoured to have the internationally acclaimed violinist Nicola Benedetti CBE as Patron of Cowbridge Music Festival.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/our-patron\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/our-patron\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/our-patron\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/05\\\/our-patron-nicola-benedetti.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/05\\\/our-patron-nicola-benedetti.jpg\",\"width\":800,\"height\":450,\"caption\":\"Our Patron Nicola Benedetti\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/our-patron\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Our Patron\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/\",\"name\":\"Cowbridge Music Festival\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/#organization\",\"name\":\"Cowbridge Music Festival\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/05\\\/cmf-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/05\\\/cmf-logo.png\",\"width\":800,\"height\":450,\"caption\":\"Cowbridge Music Festival\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cowbridgemusicfestival.co.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/cowbridgemusicfestival\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/CowbridgeMusic\",\"https:\\\/\\\/www.instagram.com\\\/cowbridgemusicfestival\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Our Patron - Cowbridge Music Festival","description":"We are honoured to have the internationally acclaimed violinist Nicola Benedetti CBE as Patron of Cowbridge Music Festival.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/cy\/our-patron\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Our Patron - Cowbridge Music Festival","og_description":"We are honoured to have the internationally acclaimed violinist Nicola Benedetti CBE as Patron of Cowbridge Music Festival.","og_url":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/cy\/our-patron\/","og_site_name":"Cowbridge Music Festival","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/cowbridgemusicfestival","article_modified_time":"2022-07-18T09:51:16+00:00","og_image":[{"width":800,"height":450,"url":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/our-patron-nicola-benedetti.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_site":"@CowbridgeMusic","twitter_misc":{"Est. reading time":"11 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/our-patron\/","url":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/our-patron\/","name":"Our Patron - Cowbridge Music Festival","isPartOf":{"@id":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/our-patron\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/our-patron\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/our-patron-nicola-benedetti.jpg","datePublished":"2015-05-07T12:12:10+00:00","dateModified":"2022-07-18T09:51:16+00:00","description":"We are honoured to have the internationally acclaimed violinist Nicola Benedetti CBE as Patron of Cowbridge Music Festival.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/our-patron\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/our-patron\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/our-patron\/#primaryimage","url":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/our-patron-nicola-benedetti.jpg","contentUrl":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/our-patron-nicola-benedetti.jpg","width":800,"height":450,"caption":"Our Patron Nicola Benedetti"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/our-patron\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Our Patron"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/#website","url":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/","name":"G\u0175yl Gerdd y Bont-faen","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/#organization","name":"G\u0175yl Gerdd y Bont-faen","url":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/cmf-logo.png","contentUrl":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/cmf-logo.png","width":800,"height":450,"caption":"Cowbridge Music Festival"},"image":{"@id":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/cowbridgemusicfestival","https:\/\/x.com\/CowbridgeMusic","https:\/\/www.instagram.com\/cowbridgemusicfestival"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/375","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/10"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=375"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/375\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3087"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cowbridgemusicfestival.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=375"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}