MILOŠ

Gwe 21 Med, 7:30pm
Eglwys y Groes Sanctaidd

Pleser o’r mwyaf yw croesawu gitarydd arobryn Deutsche Grammophon, Miloš Karadaglić, i’r ŵyl i gyflwyno’i raglen newydd, ‘Cân y Gitâr’. I gyfeiliant pedwarawd llinynnol, mae’r rhaglen yn archwilio cerddoriaeth faróc o’r Eidal a Fandangos Sbaen, yn ogystal â threfniannau Miloš ei hun o ganeuon y Beatles, sydd wedi cael eu canmol yn fawr.

Daeth Miloš yn destun sylw rhyngwladol yn 2011 gyda’i albwm cyntaf The Guitar (Mediterráneo), a gyrhaeddodd frig y siartiau clasurol ar draws y byd ac ennill i Miloš wobr nodedig Artist Ifanc y Flwyddyn Gramophone. Cafodd ei ail albwm Latino (Pasión), a ryddhawyd yn 2012, ‘Brit’ Clasurol a gwobr Echo Klassik. Ers hynny mae Miloš wedi gweithio gyda llawer o brif gerddorfeydd y byd, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni Chicago, Cerddorfa Philadelphia a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, ac ef oedd y gitarydd cyntaf erioed i roi datganiad fel unawdydd yn Neuadd Frenhinol Albert, Llundain.

‘Karadaglić is a guitarist of superior musical and technical gifts who allows his personality to sing through the music with taste and intelligence.’ Gramophone

‘The playing is lithe, subtle of timbre and transcendentally beautiful.’ Daily Telegraph