Rhaglen Estyn Allan

Yn 2017 mae Gŵyl Gerdd y Bont-faen yn gweithio ar y cyd â Children’s Musical Adventures, sefydliad sy’n arbenigo mewn mynd â cherddoriaeth i ysgolion, i gynnig gweithdai samba a chyngherddau mewn pum ysgol. Bydd pob ysgol yn elwa o ddiwrnod llawn o weithdai, yn ogystal â chyngerdd gan ddau o chwaraewyr offer taro mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig.

 

Am y Rhaglen Estyn Allan i’r Gymuned 

Mae rhoi cyfle i blant ddod i gysylltiad â cherddoriaeth glasurol o’r radd flaenaf wedi bod yn rhan annatod o’r Ŵyl o’r cychwyn cyntaf, ac yn ystod y chwe blynedd, mae dros 5000 o blant mewn mwy na 20 o ysgolion wedi elwa o weithdai a chyngherddau estyn allan Gŵyl Gerdd y Bont-faen. Mae’r rhaglen, sy’n cael ei chynnig am ddim, yn ehangu bob blwyddyn i gynnwys cynifer o ysgolion â phosibl ym mhob rhan o’r Fro, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.

Os oes gan eich ysgol ddiddordeb mewn ymwneud â hyn yn y dyfodol, mae croeso i chi gysylltu â Tessa, y Cydlynydd Estyn Allan: tessa@cowbridgemusicfestival.co.uk

^
en_GBEnglish