Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio mae Cymdeithas Cyfeillion yr Ŵyl wedi dod yn rhan bwysig a gwerthfawr dros ben ohoni.

Mae’r grŵp teyrngar, brwd hwn o selogion cerddoriaeth wedi helpu i roi sefydlogrwydd i’r Ŵyl, a’r hyder i fentro ymlaen, i gynllunio a datblygu ar gyfer y dyfodol.

Yn gyfnewid am eu cefnogaeth, rydym ni’n cynnig rhai manteision i’r aelodau: cylchlythyron, digwyddiadau cymdeithasol, cyngherddau arbennig, ac wrth gwrs, cyfle i fod yn rhan o’r fenter ifanc, fywiog hon sy’n dod â cherddoriaeth o’r radd flaenaf i’r gymuned.

Os hoffech chi ymuno â Chymdeithas Cyfeillion yr Ŵyl, fe gewch groeso cynnes iawn. Awgrymir cyfraniad aelodaeth o £25 y pen y flwyddyn.

Cadeirydd: Mr Peter Knapp
Ysgrifennydd: Mrs Melanie Hurst

I ymuno â’r Cyfeillion, e-bostiwch Melanie i gael ffurflen ymaelodi:
melanie.wolfhouse@gmail.com

^
cyWelsh