Lansiwyd Gŵyl Gerdd y Bont-faen yn 2010 ac mae wedi ennill ei phlwyf ymhlith gwyliau cerddoriaeth mwyaf cyffrous Cymru, yn cynnig cerddoriaeth glasurol, jazz a cherddoriaeth werin ar lefel ryngwladol i gymuned y Bont-faen a’r tu hwnt.

Bob blwyddyn, mae’r ŵyl yn dod â rhai o gerddorion gorau’r byd i berfformio yn y dref farchnad hardd hon; ymhlith yr artistiaid diweddar mae Nicola Benedetti, Jacqui Dankworth, Pedwarawd Doric, Stile Antico, Tenebrae, Llŷr Williams, Elin Manahan Thomas a Maya Youssef. Nicola Benedetti CBE yw Noddwr yr ŵyl, a Llŷr Williams yw Artist Cyswllt yr ŵyl.

Nod yr ŵyl yw gwneud cerddoriaeth glasurol wych yn gwbl hygyrch, ac yn brofiad difyr, dyrchafol. Ochr yn ochr â’r cyngherddau cynhelir rhaglen estyn allan gyffrous a chynhwysfawr, sydd wedi cyrraedd mwy na 10,000 o ddisgyblion lleol yn ystod y degawd diwethaf. Mae perfformiadau ar y cyrion hefyd yn cael eu cynnal ar draws y dref, ac mae cyngherddau niferus mewn cartrefi gofal lleol wedi sicrhau bod cerddoriaeth fyw yn cyrraedd pawb yn y gymuned leol.

Cenhadaeth

  • Dod â rhagoriaeth artistig ryngwladol i gymuned y Bont-faen
  • Ysbrydoli, addysgu a herio’r genhedlaeth nesaf o gerddorion a selogion cerddoriaeth
  • Creu cyfleoedd ar gyfer cerddorion ifanc dawnus
  • Gwneud cerddoriaeth glasurol yn hygyrch i bawb a chwalu ei delwedd elitaidd ganfyddedig
  • Bod o fudd i’r gymuned a rhoi’r Bont-faen ar y map diwylliannol ym Mhrydain Fawr

^
cyWelsh