Mae’n anrhydedd i ni mai Nicola Benedetti MBE, y fiolinydd o fri rhyngwladol, yw Noddwr Gŵyl Gerdd y Bont-faen.

Daeth Nicola i gysylltiad â’r ŵyl am y tro cyntaf yn 2011, pan roddodd ddatganiad bythgofiadwy gyda’r pianydd Alexei Grynyuk yn Neuadd Bradenstoke. Bryd hynny, dim ond yn ei hail flwyddyn yr oedd yr ŵyl, a bu hi’n canmol y llwyddiant cynnar. Dair blynedd yn ddiweddarach, i nodi 5 mlynedd, bu’n ddigon caredig i addo ei chefnogaeth a’i chymeradwyaeth. Mae Gŵyl Gerdd y Bont-faen yn rhannu ei nod o roi cyfleoedd cerddorol i blant, a meithrin doniau ifanc. Mae’r gwaith addysgol uchel ei barch y mae hi’n ei gyflawni mewn modd arloesol yn yr Alban, ei mamwlad, ac ar draws y byd, yn enghraifft sy’n ysbrydoli o’r hyn y gellir ei gyflawni.

Rhai ffeithiau am Nicola…

Nicola Benedetti yw un o fiolinyddion amlycaf ei chenhedlaeth. Mae ei gallu i hudo cynulleidfaoedd â’i natur gerddorol gynhenid a’i phresenoldeb deinamig, ynghyd â’i hatyniad cyffredinol fel llysgennad proffil uchel i gerddoriaeth glasurol, wedi ei gwneud hi’n un o artistiaid clasurol mwyaf dylanwadol ein dyddiau.

Ganed Nicola yn yr Alban o dras Eidalaidd, a dechreuodd gael gwersi fiolin yn bump oed gyda Brenda Smith. Yn 1997, aeth i Ysgol Yehudi Menuhin, lle bu’n astudio gyda Natasha Boyarskaya. Ar ôl gadael y fan honno, bu’n astudio ymhellach gyda Maciej Rakowski ac yna Pavel Vernikov.

Elfen greiddiol o’i gyrfa yw perfformio concerti, ac mae mawr alw am Nicola gyda cherddorfeydd blaenllaw ar draws y byd. Ymhlith yr arweinwyr y mae Nicola wedi gweithio gyda nhw mae Vladimir Ashkenazy, Jiří Bělohlávek, Stéphane Denève, Christoph Eschenbach, James Gaffigan, Hans Graf, Valery Gergiev, Alan Gilbert, Jakub Hrůša, Kirill Karabits, Andrew Litton, Kristjan Järvi, Vladimir Jurowski, Cristian Măcelaru, Zubin Mehta, Andrea Marcon, Michael Tilson Thomas, Robin Ticciati, Vasily Petrenko, Donald Runnicles, Thomas Søndergård, Pinchas Zukerman a Jaap van Zweden.

Mae Nicola yn mwynhau gweithio gyda cherddorfeydd ar y lefel uchaf, gan gynnwys cydweithio â Cherddorfa Symffoni Llundain, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, Cerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd, Cerddorfa Theatr Mariinsky, Leipzig Gewandhousorchestr, Cerddorfa Symffoni Radio Frankfurt, y Gerddorfa Ffilharmonig Tsiec, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Denmarc, Cerddorfa Ffilharmonig Los Angeles, Cerddorfa Symffoni San Francisco, Cerddorfa Symffoni Chicago, a Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Washington D.C.

Y tymor yma, bydd Nicola yn cydweithio â Cherddorfa’r Oes Oleuedig ar gyfer cyngherddau byw yn y BBC Proms, Snape Maltings a Neuadd Saffron, ac yn gweithio ar brosiectau digiol i’r Philharmonia a Paavo Järvi a Cherddorfa Siambr yr Alban gyda Maxim Emelyanychev. Ar ben hynny, mae Nicola yn perfformio gyda Cherddorfa Symffoni Lucerne a James Gaffigan, Cerddorfa Genedlaethol Sbaen a Cherddorfa Symffoni Pittsburgh gyda Pablo Heras-Casado. Mae hi hefyd yn Artist Preswyl gyda Cherddorfa Symffoni St Louis a bydd yn perfformio nifer o gyngherddau, datganiadau a dosbarthiadau meistr ar hyd y tymor. Yng ngwanwyn 2021 bydd Nicola yn rhoi’r perfformiad byd cyntaf o Concerto Mark Simpson i’r Fiolin gyda Cherddorfa Symffoni Llundain a Gianandrea Noseda, cyn i’r un gwaith gael ei berfformio gydag RSNO a WDR Köln. Ymhlith uchafbwyntiau eraill y tymor mae teithiau i UDA ar gyfer prosiectau cerddoriaeth siambr, gan gynnwys rhaglen o ddatganiadau baróc gyda Richard Egarr, taith i’r Dwyrain Pell gyda Cherddorfa Siambr yr Alban a Maxim Emelyanychev, a recordiad a pherfformiadau o Concerto Beethoven i’r Fiolin gyda Cherddorfa Aurora.

Ymhlith uchafbwyntiau’r tymor diwethaf roedd perfformiad cyntaf Nicola gyda’r Wiener Symphoniker, taith yn Asia gyda’r Deutsches Symphonie-Orchester Berlin a Robin Ticciati, a pherfformiadau pellach gyda Vladimir Jurowski a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, Michael Tilson Thomas gyda cherddorfa Symffoni’r Byd Newydd a cherddorfa Symffoni Llundain, Cerddorfa Symffoni Birmingham, Cerddorfa Siambr yr Alban, a thaith yn Ewrop gyda Thomas Søndergård a Cherddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban.

Mae Nicola hefyd yn gerddor siambr selog ac yn cydweithio â’r sielydd Leonard Elschenbroich a’r pianydd Alexei Grynyuk, sydd wedi bod yn perfformio fel triawd ers 2008. Ymhlith perfformiadau’r gorffennol mae Neuadd Cadogan, Llundain, Concertgebouw, Amsterdam, Gŵyl Ryngwladol Caeredin, Alte Oper, Frankfurt, Gŵyl Ravinia, 92nd Street Y, Efrog Newydd, a Neuadd y Ddinas, Hong Kong. Ym mis Tachwedd 2018 cychwynnodd y triawd ar daith mis o hyd yn Awstralia, gan roi naw perfformiad mewn saith dinas.
Mae Nicola wedi parhau yn ei rôl fel llysgennad ymroddedig, angerddol ac arweinydd ym maes addysg gerddorol. Ategwyd ei hymrwymiad i gefnogi ymarferwyr cerdd y Deyrnas Unedig ym mis Gorffennaf 2018, pan ddaeth Nicola’n Llywydd Cymdeithas Athrawon Llinynnau Ewrop. Mae hi wedi ffurfioli ei gweledigaeth ac ehangu ei hymrwymiad i addysg pobl ifanc a chefnogi athrawon cerdd trwy ffurfio sefydliad elusennol: Sefydliad Benedetti. Lansiwyd Sefydliad Benedetti ym mis Ionawr 2020, ac mae’n cynnal gweithdai cerddorfaol trawsffurfiannol i bobl ifanc ac athrawon, gan arddangos sut olwg a theimlad sydd i’r addysg gerddorol orau. Ers ffurfio’r Sefydliad, mae wedi cyflwyno pedair sesiwn yn y Deyrnas Unedig, gan weithio gyda phlant ac athrawon o 31 o’r 32 awdurdod lleol yn yr Alban, 30 o’r 32 bwrdeistref yn Llundain, ac mewn partneriaeth agos â llawer o sefydliadau, gwasanaethau cerdd, hybiau ac athrawon cerdd preifat ar draws y Deyrnas Unedig. Ym mis Mai 2020, yn ystod y cyfnod clo, aeth y Sefydliad ar-lein gyda “sesiynau rhithwir”, a darparu sesiynau tiwtorial ar-lein a gweithdai llawn ysbrydoliaeth i fwy na 7,000 o gerddorion o bob oed. Mae’r sesiynau wedi cael effaith na welwyd ei thebyg, gyda mwy na 66 o wledydd yn cael eu cynrychioli, a phobl o 41 o 50 Talaith UDA yn ymuno.

Mae Nicola yn dal i lenwi swyddi allweddol mewn nifer o sefydliadau cerddoriaeth ieuenctid amlycaf a safon uchaf y wlad, gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol y Plant (Is-lywydd), Sistema Scotland (Chwaer Fawr), Cerddorfa Iau Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol yr Alban (Noddwr), Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth mewn Ysgolion Uwchradd (Noddwr), Conservatoire Iau Conservatoire Brenhinol yr Alban (Noddwr), a llawer mwy.

Enillodd Nicola’r wobr GRAMMY am yr Unawd Offerynnol Clasurol Gorau yn 2020, yn ogystal â’r Artist Benywaidd Gorau yng Ngwobrau BRIT Clasurol 2012 a 2013, ac mae hi’n recordio i Decca (Universal Music) yn unig. Aeth ei recordiad diweddaraf o Concerto Elgar i’r Fiolin yn syth i rif un yn Siart Albymiau Clasurol Swyddogol y Deyrnas Unedig, a derbyniodd glod gan y beirniaid, gan gynnwys adolygiad 5* yn The Times: “Ac eto, y tu hwnt i’w hystwythder gloyw, mae Benedetti yn cynnig rhywbeth mwy gwerthfawr fyth i’r gwrandawyr: dehongliad personol deinamig, yn llawn ffresni ac argyhoeddiad.” Ymhlith ei recordiadau eraill diweddar mae ei halbwm a enillodd GRAMMY, a luniwyd yn arbennig ar ei chyfer gan y cerddor jazz Wynton Marsalis: Concerto i’r Fiolin yn D a Fiddle Dance Suite for Solo Violin. Mae catalog recordio Nicola hefyd yn cynnwys gweithiau o Concerti Shostakovich a Glazunov i’r Fiolin i Concerto Szymanowski (Cerddorfa Symffoni Llundain/Daniel Harding) i Homecoming; A Scottish Fantasy, a olygodd mai Nicola oedd yr unawdydd fiolin cyntaf o Brydain ers y 1990au i gyrraedd yr 20 ar y brig yn Siart Albymiau Swyddogol y Deyrnas Unedig.

Penodwyd Nicola yn Gomander Urdd Ymerodraeth Prydain (CBE) yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2019, dyfarnwyd iddi Fedal Cerddoriaeth y Frenhines yn 2017, yr ifancaf erioed i’w dderbyn, ac fe’i penodwyd yn Aelod o Urdd Fwyaf Ardderchog yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) yn 2013 i gydnabod ei gyrfa gerddorol ryngwladol a’i gwaith gydag elusennau cerddorol ar draws y Deyrnas Unedig. Ar ben hynny, mae Nicola wedi derbyn naw gradd er anrhydedd hyd yma.

Mae Nicola yn chwarae’r Gariel Stradivarius (1717), trwy garedigrwydd Jonathan Moulds.

Ffoto: Simon Fowler

^
cyWelsh