Mae rhoi cyfle i blant brofi cerddoriaeth glasurol o’r radd flaenaf wedi bod yn rhan annatod o’r Ŵyl ers y cychwyn, ac mewn cyfnod o ddeng mlynedd mae mwy nag 8000 o blant mewn mwy nag ugain o ysgolion wedi elwa o weithdai a chyngherddau estyn allan Gŵyl Gerdd y Bont-faen.

Mae’r rhaglen, a gynigir yn ddi-dâl, yn ehangu bob blwyddyn i gynnwys cynifer o ysgolion â phosibl ym mhob rhan o’r Fro, Pen-y-Bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.

Os oes gan eich ysgol chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o hyn yn y dyfodol, mae croeso i chi gysylltu â ni: hello@cowbridgemusicfestival.co.uk

 

^
cyWelsh