Rhythmau India

Dydd Mercher 16 Medi, 7.30pm

Debasmita Bhattacharya – sarod
Gurdain Rayatt – tabla

Cyfle prin i glywed perfformiad byw gan un o gerddorion clasurol ifanc gorau India. Bydd y firtwoso sarod, Debasmita Bhattacharya, yn ymuno â’r chwaraewr tabla o fri, Gurdain Singh Rayatt, i gyflwyno noson o gerddoriaeth fyrfyfyr ysgubol, yn llawn athrylith rhythmig a mynegiant cerddorol dwys. Mae’r gerddoriaeth hon wedi’i gwreiddio yn nhraddodiadau cyfoethog cerddoriaeth glasurol Hindustani, ond mae’n llawn bywyd a chyffro cyfoes, a dyma gyfle unigryw i ddarganfod un o draddodiadau cerddorol mawr y byd.

“Mae Debasmita yn cyfuno rhythm ac alaw mewn llif perffaith” (IndiansInKuwait.com)

“Mae Gurdain Rayatt yn chwaraewr tabla disglair; yn llawn nwyfiant, firtwosedd a chynnwys cyfoethog” (Darbar)

Neuadd y Dref y Bont-faen
£25 / £5 plant/myfyrwyr

Gwybodaeth allweddol

Dates

Dydd Mercher 16 Medi, 7.30pm

In Categories
Cyngherddau

Archebu

16 Sep 2026
Yn ôl i'r Holl Ddigwyddiadau
^
cyWelsh