Ar sail rheoliadau Llywodraeth Cymru a chanllawiau’r Eglwys yng Nghymru, mae Gŵyl Gerdd y Bont-faen wedi rhoi’r mesurau canlynol ar waith i sicrhau bod aelodau’r gynulleidfa, y cerddorion, y staff a’r gwirfoddolwyr yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl:

  • Rhaid i chi beidio â dod i unrhyw gyngerdd os bydd gennych symptomau Covid-19.
  • Bydd nifer y bobl sydd yn y lleoliad yn cael ei leihau’n fawr er mwyn sicrhau bod modd cadw pellter cymdeithasol.
  • Bydd y lleoliadau’n cael eu diheintio a’u hawyru cyn cyngherddau.
  • Wrth gyrraedd lleoliad y cyngerdd, arhoswch i un o’n hebryngwyr eich tywys i’ch sedd.
  • Bydd hylif diheintio dwylo ar gael ym mhob cyngerdd.
  • Rhaid gwisgo mwgwd ar hyd yr amser y tu mewn i’r lleoliad.
  • Bydd yr holl gyngherddau’n cael eu cynnal heb egwyl.
  • Ar ddiwedd y cyngerdd, gofynnwn yn garedig i chi aros yn eich sedd hyd nes i’n hebryngwyr eich gwahodd i ymadael.
  • Bydd y manylion cyswllt a gesglir adeg prynu eich tocyn yn cael eu storio am 14 diwrnod ar ôl dyddiad y cyngerdd, fel bod modd olrhain cysylltiadau. Wedi’r dyddiad hwnnw, bydd yr holl ddata’n cael ei ddileu.

Diweddarwyd ar 27.09.2021

^
cyWelsh