Festival Archive: 2023 Festival

Nos Wener 15 Medi, 7.30pm
Eglwys y Groes Sanctaidd
Cyngherddau
Cyngherddau
2023 Festival
2023 Festival
Yn fuan wedi serennu adeg y Coroni, mae’r bariton o fri Roderick Williams OBE yn ymuno â’r pianydd a’r darlledwr enwog Iain Burnside i agor gŵyl 2023. Gyda’i gilydd, byddan nhw’n rhannu’r gwirionedd am gariad gyda ni, trwy gyfrwng caneuon gan gyfansoddwyr fydd yn cynnwys Purcell, Rachmaninov, Debussy, Quilter, Shaw, Beamish, i enwi rhai yn unig.
Nos Sadwrn 16 Medi, 7pm
Eglwys y Groes Sanctaidd
Cyngherddau
Cyngherddau
2023 Festival
2023 Festival
Trio Gaspard yw un o driawdau piano blaenllaw eu cenhedlaeth, ac rydym ni’n ffodus dros ben eu bod yn ymuno â ni ar eu taith drwy’r Deyrnas Unedig. Yn ‘Hanesion Tsiec’ maen nhw’n perfformio dau waith cain gan Smetena a Suk, cyn cloi â Thriawd ‘Dumky’ enwog Dvořák.
Nos Sadwrn 16 Medi, 9.30pm
Tafarn Dug Wellington
Cyngherddau
Cyngherddau
2023 Festival
2023 Festival
Daeth Julia Kogut-Kalynyuk a Kateryna Trachuk, sy’n hanu o Lviv yn Wcráin, i’r Deyrnas Unedig ym mis Mai 2022, yn ffoi rhag y rhyfel yn eu gwlad. Byddant yn chwarae’r bandura (offeryn llinynnau sy’n cael eu plycio) ac yn canu, gan berfformio cerddoriaeth werin draddodiadol o Wcráin, a fu’n rhan o’u magwraeth o’r cyfnod cynharaf.
Nos Sul 17 Medi, 5:00pm
Eglwys y Groes Sanctaidd
Cyngherddau
Cyngherddau
2023 Festival
2023 Festival
Daw’r Cyfarwyddwr Artistig Rosalind Ventris a’r Artist Cysylltiol Llŷr Williams ynghyd i chwarae dau o’r gweithiau uchaf eu parch gan Brahms – y sonatâu olaf a gyfansoddwyd ganddo. Byddant yn cyfuno’r sonatâu hyn â gweithiau gwych, llai adnabyddus gan Kodaly, Weiner a Clara Schumann, i greu rhaglen amrywiol, llawn angerdd.
Nos Lun 18 Medi, 7pm
Tafarn Dug Wellington
Cyngherddau
Cyngherddau
2023 Festival
2023 Festival
Bydd y cynhyrchiad cerddorol unigryw hwn gan Gwmni Flamenco Daniel Martinez yn cyflwyno amrywiaeth cyfoethog o arddulliau flamenco, o emosiwn dwys y Seguiriya i seiniau llawen yr Alegria. Daw cantorion, gitaryddion, chwaraewr cajon, fiolinydd a dawnsiwr ynghyd i greu cyfuniad llawen o gerddoriaeth a dawns.
Tue 19th Sep 2023, 7:00pm
Tafarn Dug Wellington
Cyngherddau
Cyngherddau
2023 Festival
2023 Festival
Tri cherddor o Gymru a thri o India yw Khamira, ac maen nhw’n perfformio cyfuniad cwbl unigryw o gerddoriaeth glasurol Hindustani, jazz, cerddoriaeth werin o Gymru, roc, a grŵf dwfn. Ers i’r grŵp gael ei ffurfio yn 2015, mae wedi perfformio ar draws y byd, ac rydyn ni wrth ein bodd yn eu croesawu i’r Bont-faen am y tro cyntaf.
Nos Fercher 20 Medi, 7pm
Eglwys y Groes Sanctaidd
Cyngherddau
Cyngherddau
2023 Festival
2023 Festival
Bydd yr ensemble ffliwt, fiola a thelyn o fri, Trio Anima, yn dychwelyd i’r Bont-faen am yr eildro, ar ôl dod yma am y tro cyntaf yn 2016. Bydd eu perfformiad yn cynnwys gweithiau o’u halbwm cyntaf, ‘Rhwng Daear a Môr’, ochr yn ochr â Sonate hiraethus diamser Debussy.
Nos Wener 22 Medi, 7pm
Eglwys y Groes Sanctaidd
Cyngherddau
Cyngherddau
2023 Festival
2023 Festival
Y pianydd dawnus o Gymru, Tomos Boyles, fydd i’w glywed yn Natganiad Artist Ifanc eleni. Bydd yn perfformio rhaglen gyfoethog o weithiau Rhamantaidd, gan gynnwys gweithiau hardd gan Chopin, Ravel, Clara Schumann a Scriabin.
Nos Sadwrn 23 Medi, 7:30pm
Eglwys y Groes Sanctaidd
Cyngherddau
Cyngherddau
2023 Festival
2023 Festival
Mae’r chwe motet gan Johann Sebastian Bach ymhlith gweithiau corawl mwyaf y ddeunawfed ganrif. Heno bydd Côr neilltuol eglwys Sant Paul Knightsbridge, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Artistig Joseph Fort, yn dod â’r gweithiau hyn ynghyd mewn un rhaglen o gerddoriaeth ogoneddus.
Nos Sadwrn 23 Medi, 9.30pm
Tafarn Dug Wellington
Cyngherddau
Cyngherddau
2023 Festival
2023 Festival
Mae Dionne Bennett a’i band o Gaerdydd, yr Hadau Pupur, wedi mireinio’u sain unigryw, lleddf dros gyfnod o ddegawd. Bydd perfformiad heno yn cynnwys rhywbeth i bawb, o ganeuon Nina Simone i gerddoriaeth funk a soul, gyda jazz Lladin wrth fynd heibio!
Dydd Sul 24 Medi, 11am
Theatr Ysgol Gyfun y Bont-faen
Cyngherddau
Cyngherddau
Teulu
Teulu
2023 Festival
2023 Festival
Unwaith yn rhagor, mae Gŵyl Gerdd y Bont-faen a Children’s Musical Adventures yn cydweithio i gyflwyno profiad difyr, addysgiadol a llawn antur i’r teulu i gyd. Byddwch yn barod i ymuno fel cynulleidfa wrth i ni ymuno â Patrick, Hannah a’r tîm ar eu hantur gerddorol nesaf.
Nos Sul 24 Medi, 7.30pm
Theatr Ysgol Gyfun y Bont-faen
Cyngherddau
Cyngherddau
2023 Festival
2023 Festival
Rydyn ni’n disgwyl diweddglo ysgubol i ŵyl 2023, wrth i ni groesawu band mawr llawn am y tro cyntaf! Ffurfiwyd The Power of Gower gan Dave Cottle yn 2011, gan ddod â rhai o gerddorion jazz mwyaf cyffrous a chynhyrchiol Cymru at ei gliydd, a byddan nhw’n cyflwyno rhaglen wefreiddiol i gloi ein gŵyl eleni.
^
cyWelsh